• Sesiynau Blasu am Ddim gan gynnwys caiacau, byrddau padlo ar eu traed, cwryglau a chanŵod

  • Bad Achub Glanyfferi

  • Fferis Bae Caerfyrddin

  • Rasys Cwrwgl

  • Ras Rafftiau

  • Pencampwriaeth Gwibio Theganau Cenedlaethol Cymru

  • Arddangosiadau Bwyd Môr

  • Holl Weithgareddau Ochr Sych gan gynnwys Ffair Hwyl Rhad ac Am Ddim i Blant, gweithgareddau i’r teulu, Côr Roc Caerfyrddin, Wal Ddringo, Arddangosiadau Bwyd Lleol, Ukuleles Caerfyrddin, Côr Tenovus, a llawer mwy

  • Rhwyfo Caerfyrddin

  • Pwll Cwrwgl


Gŵyl yr Afon – dathliad o’r Afon sydd wastad wedi chwarae rhan arwyddocaol yn hanes Caerfyrddin

Mae cofnodion Tuduraidd yn dangos mewnforion haearn, plwm, glo, mêl, halen, gwin, olew a sbeisys, ac allforion brethyn a gwlân. Yn yr 17eg ganrif gwelwyd mwy o fewnforion o nwyddau moethus fel sebon, piwter, finegr, siwgr, ffrwythau, sinsir, marmaled, gwelyau a nwyddau pres. Yn y 1720au cofrestrwyd 57 o longau yng Nghaerfyrddin, ac roedd ei thunelledd ar y pryd ddwywaith cymaint â Chaerdydd.

Roedd y 1840au yn anterth Caerfyrddin fel porthladd, ar gyfer llongau hwylio ac ager. Adeiladwyd llongau hyd at 330 tunnell yng Nghaerfyrddin, yng nghyffiniau Canolfan y Cei heddiw.


Canolfan y Cei
Ffordd y Cwrwgl
Caerfyrddin
SA31 3LN

Ebost : carmarthenriverfestival@gmail.com