• 3PM – 4:30PM – Sesiwn Flasu Am Ddim

  • 3:00pm – 6:00pm – Arddangosiadau Bwyd Môr

  • 3PM – 7PM – Ffair Am Ddim

  • 3PM – Wal Ddringo Am Ddim

  • 5pm – Rasys Cwryglau

  • 5:30 – Bad Achub Y Glannau Glanyfferi

  • 5:45pm – Rhwyfo Caerfyrddin

  • 6pm – Ras Rafftiau

  • 6:30pm – Ras Hwyaid

Amcangyfrif yw’r holl amserau


Gŵyl yr Afon – dathliad o’r Afon sydd wastad wedi chwarae rhan arwyddocaol yn hanes Caerfyrddin

Mae cofnodion Tuduraidd yn dangos mewnforion haearn, plwm, glo, mêl, halen, gwin, olew a sbeisys, ac allforion brethyn a gwlân. Yn yr 17eg ganrif gwelwyd mwy o fewnforion o nwyddau moethus fel sebon, piwter, finegr, siwgr, ffrwythau, sinsir, marmaled, gwelyau a nwyddau pres. Yn y 1720au cofrestrwyd 57 o longau yng Nghaerfyrddin, ac roedd ei thunelledd ar y pryd ddwywaith cymaint â Chaerdydd.

Roedd y 1840au yn anterth Caerfyrddin fel porthladd, ar gyfer llongau hwylio ac ager. Adeiladwyd llongau hyd at 330 tunnell yng Nghaerfyrddin, yng nghyffiniau Canolfan y Cei heddiw.


Canolfan y Cei
Ffordd y Cwrwgl
Caerfyrddin
SA31 3LN

Ebost : carmarthenriverfestival@gmail.com